CREIRIAU

Ym mis Hydref 2020, gwnaeth GWASG PELYDR alwad agored, yn gofyn i gyfranwyr edrych ar heddiw drwy lygaid y gorffennol diweddar.

O’r alwad honno, adeiladwyd Creiriau, labyrinth celfyddydol lle mae gif yn dy arwain at gerdd sy’n dy arwain at lun ac yn y blaen.

Megis dechrau y mae Creiriau, ac ein gobaith yw y bydd yn tyfu wrth i artistiaid ganfod ysbrydoliaeth, ac ychwanegu eu syniadau nhw at y wefan. Os oes diddordeb gennych chi mewn cyfrannu, cysylltwch â ni.