Test.png

Gwasg annibynnol yw GWASG PELYDR. Ein bwriad yw ysgogi diwylliant llenyddol amgen drwy rymuso awduron a darllenwyr fel ei gilydd i herio’r drefn. Gan ein bod ni’n annibynnol, mae ein hincwm fel gwasg yn llwyr ddibynnol ar werthiant, ac felly mae derbyn eich cefnogaeth chi’n hollbwysig i’n galluogi ni i barhau.

Pamffled o gerddi gan Morgan Owen sy’n cynnwys ffotograffau gan Catrin Menai yw Ysgall.

Wedi’i gyfansoddi a’i gynhyrchu yn ystod cyfnodau clo, dyma bamffled sy’n cyfuno’r myfyriol a’r gwyllt mewn dweud sy’n nodweddiadol o ganu Morgan Owen.

Ewch i’r siop er mwyn archebu.

 

Cyfrol o ysgrifau sy'n trafod teithio, arian, iaith a thwristiaeth yn ne-ddwyrain Asia gan Dyfan Lewis yw AMSER MYND.

Ewch i’r siop er mwyn archebu’r llyfr.